Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 17 Ionawr 2017.
Rwy’n meddwl ei bod braidd yn anffodus eich bod yn ceisio sarhau’r Ysgrifennydd Gwladol presennol, sydd wedi gweithio'n ddiflino, ynghyd â chydweithwyr, i gyflwyno'r Bil hwn. Ond fe ofynnaf y cwestiwn hwn i chi—roeddech chi’n Aelod Seneddol yn 2006, a bleidleisiodd dros y Bil Cymru bryd hynny a roddodd y broses Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i ni; nid wyf yn credu bod eich hanes yn y Senedd mewn gwirionedd yn cymharu yn erbyn y trosglwyddo cyfrifoldebau i'r lle hwn sydd wedi digwydd o dan y Ceidwadwyr Cymreig.