Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 17 Ionawr 2017.
Heddiw, byddaf yn ymuno â fy nghydweithwyr Llafur ac yn pleidleisio dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar Fil Cymru. Yn wir, fel y dywedodd llawer, mae yr hyn ydyw. Ar gyfer hyn, mae gennym Lywodraeth Geidwadol y DU, sydd unwaith eto wedi siomi pobl Cymru yn yr amherffeithrwydd hwn a nodwyd—. Ym mis Hydref 2015, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, fod Bil Cymru yn:
gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i dynnu llinell o dan y ddadl barhaus, ddiddiwedd hon ... ynglŷn â datganoli'.
Gan neidio ymlaen i fis Ionawr 2017, mae gennym arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n dweud nad hwn fydd y Bil Cymru olaf, ond yr olaf o'r sesiwn seneddol hon. Roedd ar Gymru, fel y dywedwyd, angen Bil Cymru San Steffan a oedd yn cynnig eglurder, symlrwydd, a chydnabyddiaeth, fel y mae Eluned Morgan wedi’i ddweud, o’r daith ddatganoli yng Nghymru yn y ddwy ddegawd ddiwethaf.
Bydd y Bil presennol, fodd bynnag, yn wir yn rhoi sicrwydd mwy cyfansoddiadol i Gymru, a bydd y fframwaith cyllidol cryfach sy'n cyd-fynd ag ef yn cynnig cam cynyddrannol pwysig yn y cyfeiriad cywir. Y mae’n cyflwyno bargen decach i Gymru a hoffwn dalu teyrnged lawn i'r Ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford, am ei ymdrechion sylweddol yn hyn o beth. Peidied neb ag amau, fodd bynnag: nid yw'r Bil Cymru presennol yn Fil y byddai'r Blaid Lafur wedi’i greu yn ei gyfanrwydd amherffaith.
Efallai fod datblygiad arteithiol y Bil o'r dechrau’n deg i'r pasio yn freuddwyd i gyfreithwyr, ond, i’r person cyffredin ar y stryd, mae wedi bod yn weithdrefn gymhleth. Mae ofn gan lawer nad yw Llywodraeth y DU wedi ymdrin â’r broses hon â dwylo glân. Er bod gwleidyddion Torïaidd wedi siarad am roi diwedd ar ansicrwydd cyfansoddiadol rhwng Bae Caerdydd a San Steffan, mae eu gweithredoedd wedi arwain llawer i gredu mai eu bwriad yw llesteirio, fel y mae eraill wedi dweud, aeddfedrwydd cynyddol y lle hwn.
Gwleidyddion Cymru wedi’u hethol gan bobl Cymru, ac nid mandariniaid Whitehall, ddylai fod yn rheoli’r gwaith o drefnu’n daclus y gwahanu pwerau rhwng Llywodraeth y DU a Chymru. Rydym yn gwybod o araith gynharach Theresa May heddiw y bydd Brexit yn parhau i ddominyddu gwleidyddiaeth y DU am y ddegawd nesaf. Ni fydd gan San Steffan, fel y mae eraill wedi dweud, unrhyw amser nac unrhyw awydd neu hyd yn oed unrhyw ddiddordeb mewn edrych ar Gymru. Felly, y gwir amdani yw mai’r cam ymlaen bach, ac mewn rhai ffyrdd, anfoddhaol iawn, hwn i Gymru yw'r cyfan sydd ar y bwrdd. Fel y cyfryw, er lles pobl Cymru, ni fyddwn yn rhoi rhwystr o flaen yr hyn sy’n Bil llai na pherffaith.
Rwyf am gofnodi fy ngwerthfawrogiad o waith fy ffrind, y Farwnes Eluned Morgan, sy'n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, am ei gwaith rhagorol yma yn y Senedd ac yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae hi wedi ceisio lliniaru agweddau gwaethaf yr amherffeithrwydd hwn. Mae hyn wedi arwain, mewn llawer o feysydd, at Lywodraeth y DU yn ildio ar safbwyntiau a phwyntiau nad oedd ar un adeg yn agored i drafodaeth. Ond, fel y dywedodd Eluned Morgan wrth Dŷ'r Arglwyddi, mae'r Bil yn parhau i fod yn gymhleth, yn anhygyrch, yn aneglur ac ni fydd yn datrys mater datganoli i Gymru, fel y bwriadwyd.
Gyda Brexit caled ar y gorwel, mae'n hanfodol nad ydym ni yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn caniatáu ansicrwydd yn setliad datganoli Cymru, nac yn cynnig unrhyw gyfle i Lywodraeth y DU i ddal gafael ar bwerau yn Llundain y dylent gael eu dychwelyd yn briodol i Gymru unwaith y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
A gaf i wneud sylwadau yn olaf ar y llwyddiannau pwysig o fewn y fframwaith cyllidol a drafodwyd yn gryf, gan gynnwys datganoli treth yn rhannol, diwygio teg ar Barnett, gwell mynediad ariannol a sefydlogrwydd yn y cyllid gwaelodol? Mae'r rhain yn bethau yr ydym wedi siarad amdanynt ers amser maith, maith, ac y maent yma. Ni fydd Cymru yn waeth ei byd o’i chymharu â Lloegr o ran ein hanghenion gyda’r Bil hwn. Yn wir, gyda Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gaeth i bolisïau cyni sydd wedi methu, bydd popeth—popeth—y gallwn ei wneud yma yn y Siambr hon i gryfhau llaw Llywodraeth Cymru i ysgogi'r economi i'w groesawu. Bydd y benthyciadau ychwanegol o £500 miliwn a ganiateir o ddefnydd i bobl Cymru ac i Lywodraeth Cymru.
Felly, ydi, mae Bil Cymru, yn wir yn amherffaith. Mae’r hyn ydyw. Mae wedi dangos ac amlygu gwendid Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth sefyll dros Gymru. Fel y cyfryw, byddaf serch hyn yn cefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw, ond gresynaf yn fawr at y cyfle a gollwyd yn sgil ymgais y Llywodraeth Dorïaidd i chwarae gwleidyddiaeth â'r setliad datganoli ar draul Cymru. Diolch.