Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 17 Ionawr 2017.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'r rheoliadau y gofynnwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol eu cymeradwyo heddiw yn diwygio rheoliadau cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor 2013. Mae angen y diwygiadau i sicrhau parhad trefnus y cynllun ar gyfer 2017-18 ac i fod yn sicr bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl person i gael gostyngiad i’w dreth gyngor yn cael eu cynyddu i ystyried cynnydd yng nghostau byw. Mae ffigurau ariannol yn ymwneud â phobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn cael eu cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, ac mae hyn yn wahanol i bolisi Llywodraeth y DU o rewi budd-daliadau oedran gweithio hyd at 2019-20. Bydd ffigurau sy'n ymwneud â phensiynwyr yn cael eu cynyddu 2.4 y cant, ac, wrth wneud hynny, rydym yn adeiladu amddiffyniad ychwanegol i bensiynwyr, nad yw mor rhwydd iddynt gael incwm ychwanegol o ffynonellau eraill.