Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Ionawr 2017.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r felin drafod British Influence wedi gofyn am ganiatâd i adolygiad barnwrol gael ei gynnal mewn perthynas â chymhwysedd Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd o ran y DU, mewn perthynas â Brexit. Nid yw’n glir a fydd caniatâd yn cael ei roi, ond deallaf fod bwriad bellach i gynnal gwrandawiad llafar ar gyfer ‘gadael’ ym mis Chwefror, sef pan fydd dyfarniad y Goruchaf Lys yn yr achos ar Erthygl 50 yn debygol o fod wedi’i dderbyn.