Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 18 Ionawr 2017.
Pontypridd yw fy etholaeth, wrth gwrs, a phleidleisiodd y rhan fwyaf o etholwyr Pontypridd dros aros mewn gwirionedd, felly awgrymaf eich bod yn gofyn i mi weithredu dros ‘aros’. [Chwerthin.] Ond hoffwn ddweud mewn gwirionedd mai fy rôl yma yw Cwnsler Cyffredinol, fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru a diogelu buddiannau cyfansoddiadol Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru.