Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 18 Ionawr 2017.
Mae un o fy etholwyr yn ecolegydd ac wedi cysylltu â mi eisoes yn mynegi ei bryderon ynglŷn â gorfodi deddfwriaeth Cymru sy’n seiliedig ar gyfarwyddeb cynefinoedd yr UE wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Un enghraifft yw hon ac mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi rhoi enghraifft. Mae eisoes wedi rhoi asesiad o effaith gyffredinol sbarduno erthygl 50 o Gytuniad Lisbon ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. A wnaiff roi sylwadau penodol ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i ddeddfau Cymru?