Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 18 Ionawr 2017.
Mae UKIP yn cymeradwyo ymagwedd Llywodraeth Cymru o ran partneriaeth gymdeithasol, gan nad oes unrhyw un yn ei iawn bwyll yn dymuno gweld gwrthdaro mewn perthynas â chysylltiadau diwydiannol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn ddigon hen i gofio adeg pan gafwyd cryn wrthdaro mewn diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus yn y wlad hon. Dyna pam y cyflwynwyd diwygiadau undebau llafur y 1980au. Yn y 1970au, câi cyfartaledd o 13 miliwn o ddyddiau eu colli yn sgil streiciau bob blwyddyn. Yn y 1980au hanerodd hynny i 7 miliwn; yn y 1990au gostyngodd i 660,000, ac nid yw’r ffigur wedi newid ers hynny, a siarad yn fras. Dyna pam na wnaeth y Llywodraethau Llafur o dan Tony Blair a Gordon Brown unrhyw ymgais i ddiddymu’r ddeddfwriaeth roeddent hwy a’u rhagflaenwyr wedi’i gwrthwynebu mor gryf pan oedd yn mynd drwy Dŷ’r Cyffredin yn y 1980au.
Os yw model partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru mor llwyddiannus, ac ymddengys ei fod, ni allaf ddeall pam eu bod yn meddwl bod y mesur arfaethedig sy’n cael ei gyflwyno yn San Steffan yn gymaint o fygythiad i’r berthynas dda sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng undebau gwasanaethau cyhoeddus a’r llywodraeth ar ei gwahanol ffurfiau yng Nghymru. Oherwydd bydd ymagwedd Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd y bygythiad ymddangosiadol o orfod cael pleidlais ar streic i gyrraedd y trothwyon o dan y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael ei sbarduno hyd yn oed. Felly, tybed beth yw diben cyflwyno’r Bil, a defnyddio amser y Cynulliad hwn, pan fo sawl mater pwysicach y gallwn ddefnyddio’r amser ar ei gyfer. Mae’n ffaith fod undebau llafur bron iawn wedi diflannu’n llwyr, neu’n segur o leiaf, y tu hwnt i’r sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig heddiw. Yn y byd go iawn, fel petai, lle y mae’n rhaid i bobl farchnata eu gwasanaethau, ymddengys nad oes gan undebau llafur fawr o rôl erbyn hyn. Fel sefydliadau gydag aelodaeth wirfoddol, mae’n rhaid iddynt berswadio pobl i dalu am eu tanysgrifiadau aelodaeth, ac nid ydynt wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth berswadio eu darpar aelodau i wneud hynny. Yn y sector cyhoeddus, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn. Mae cyfran uchel iawn o bobl yn ymuno ag undeb, a hynny am mai’r gwahaniaeth rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat yw bod penderfyniadau yn y sector cyhoeddus, yn y pen draw, yn benderfyniadau gwleidyddol, am fod y cyflogwyr, yn y pen draw, yn wleidyddion, ac fel hyn, felly, y caiff pwysau ei roi arnynt.
Credaf fod unrhyw beth sy’n ei gwneud yn haws i alw streic o dan yr amgylchiadau hyn yn fygythiad i fudd y cyhoedd yn gyffredinol. Wedi’r cyfan, mae undebau llafur a’u haelodau yn fuddiannau adrannol, yn hytrach na’r cyhoedd yn gyffredinol, ac rydym yn siarad yma, 100 y cant, am wasanaethau cyhoeddus y bydd yr holl etholwyr a phlant yr etholwyr yn eu defnyddio ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn. ‘Does bosibl na ddylai budd y cyhoedd gael blaenoriaeth dros fuddiannau adrannol, ac felly mae’n iawn cael trothwy rhesymol cyn galw streic. Dylai streiciau fod yn ddewis olaf yn hytrach na’r dewis cyntaf. Gofynnaf felly i Ysgrifennydd y Cabinet: pam rydym yn chwarae â thân yn yr achos hwn?