Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 18 Ionawr 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Cytunaf fod undebau’n chwarae rhan bwysig yn y gweithle, yn enwedig o ran unioni unrhyw anghyfiawnder y gallai gweithwyr ei wynebu. Dros flynyddoedd lawer, maent wedi gwella amodau gwaith ledled y Deyrnas Unedig. Ond y broblem i lawer o bobl yw bod llawer o’r undebau hynny wedi’u gwleidyddoli, ac yn arbennig, y datgysylltiad rhwng yr hyn y mae ysgrifenyddion cyffredinol llawer o’r undebau hynny’n ceisio’i gyflawni yn yr arena wleidyddol a’r gweithwyr a ymaelododd â’r undebau hynny yn hanesyddol. Mae clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad oes mandad gan Lywodraeth y DU yn fy nghythruddo i raddau. Roedd hyn yn rhan o’r maniffesto a gymeradwywyd gan bobl Prydain yn 2015, a thra bo Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am y model cymdeithasol yma yng Nghymru, rwy’n darllen yn awr am y streic a fydd yn digwydd ym mwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg, lle y mae trefnydd Unsain yno’n dweud,
Nid yw staff sterileiddio’r ysbytai’n teimlo bod y bwrdd iechyd yn gwrando arnynt na’n deall y gwaith a wnânt yn iawn.
Datganiad yw hwn. [Torri ar draws.] Hoffwn dderbyn yr ymyriad, ond mae’n ddrwg gennyf, ni allaf ei dderbyn. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod y staff yn teimlo fel pe baent newydd gerdded i mewn oddi ar y stryd.
Ychydig cyn y Nadolig, roeddem yn delio â streic yn yr amgueddfeydd cenedlaethol, ac roedd Llywodraeth Cymru yn arbennig o araf yn delio â hynny. Bydd llawer ohonom yn cofio, pan oeddech chi’n Weinidog iechyd yma yng Nghymru, fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi bod mor hy â thynnu sylw at y trafferthion a oedd yn wynebu’r gwasanaeth iechyd ym mis Medi 2014, ac fe’u gwawdiwyd gan y Prif Weinidog ar lawr y Siambr hon am feiddio tynnu sylw at rai o ddiffygion y GIG yng Nghymru. Cymerasant y cam digynsail o sicrhau bod pob un o gadeiryddion eu pwyllgorau, o’u pwyllgor meddygon ymgynghorol i’r pwyllgor meddygon iau, yn anfon llythyr at bob Aelod yn y Siambr hon. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â cheisio paentio darlun gogoneddus nad yw’n bodoli; efallai ei fod yn bodoli yn eich byd dychmygol chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthych nad yw’n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd.
Byddwn yn herio’r Bil hwn ar ei daith drwy’r Cynulliad, ac yn y pwyllgor hefyd, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, nid oherwydd ein bod yn gwrthwynebu rôl yr undebau, gan y credwn fod gan undebau rôl werthfawr iawn yn gwella hawliau gweithwyr. Ond rydym yn gwrthwynebu gwleidyddoli’r hyn y mae’r ysgrifenyddion cyffredinol yn ceisio’i gyflawni drwy weithio law yn llaw â’r Blaid Lafur. Ond mae’r cwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ymwneud yn benodol â’ch paragraff olaf, lle y mae’n dweud,
Mater i’r Cynulliad hwn, a hynny’n gywir, yw penderfynu sut y dymunwn weld y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu yng Nghymru.
Os credwch fod gennych achos i ddeddfu ar delerau ac amodau, a ydych yn credu felly eich bod yn agor cil y drws ar gyflogau rhanbarthol, ac y byddwch mewn gwirionedd yn gwneud anghymwynas enfawr â gweithwyr sector cyhoeddus yn y wlad hon drwy ddwyn eich achos yn ei flaen dros roi’r Bil hwn ar y llyfr statud? Credaf eich bod yn cynnig cyflwyno cyflogau rhanbarthol drwy barhau â’r Bil hwn, Ysgrifennydd y Cabinet.