Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 18 Ionawr 2017.
Pan ddywedodd arwr Llafur Newydd, Tony Blair, ei fod yn difaru cyflwyno Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, nid am nad oedd yn mynd yn ddigon pell y dywedai hynny; yr hyn a olygai oedd ei bod wedi rhoi mynediad i bobl at wybodaeth y byddai’n well ganddo pe na baent wedi’i chael. Efallai fod Tony Blair wedi gadael ei swydd, ond mae Llafur Cymru yn parhau ar ei ôl i obeithio cadw gwybodaeth rhag y cyhoedd.
Mae eu cynnig i wrthod deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddatgelu i’r cyhoedd faint o amser y mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn ei dreulio ar weithgareddau undeb yn ymgais ddigywilydd i guddio gwybodaeth y mae Llafur yn teimlo na fydd y cyhoedd yn ei hoffi. Mae’n rhaid bod Llafur yn gwybod y buasai’r wybodaeth yn achosi dicter ymhlith trethdalwyr Cymru, fel arall ni fyddai unrhyw reswm dros ei chadw’n ôl. Pe bai pobl yn gofyn faint o arian sy’n cael ei wario a faint o amser sy’n cael ei dreulio ar unrhyw weithgaredd arall a gyflawnir gan weithwyr y sector cyhoeddus, ni fyddai gwrthod rhoi atebion i’r cyhoedd yn cael ei oddef. Os yw’r ddeddfwriaeth hon yn mynd rhagddi, rwy’n meddwl y byddai’n gyfiawn i mi ffeilio cais rhyddid gwybodaeth bob wythnos, yn gofyn faint o amser a dreuliwyd ar weithgaredd undeb, ac i roi gwybod i’r cyhoedd fy hun.
Rwyf hefyd yn rhannu barn y cyhoedd y dylai pleidlais i streicio fod yn amodol, fan lleiaf, ar lefel ofynnol o gymeradwyaeth gan aelodau undeb. Rwy’n bryderus ynglŷn â hawliau gweithwyr ac mae’n bwysig cofio bod undebau wedi gwneud llawer iawn i wella amodau a chyflogau gweithwyr. Ond mae’n ymddangos yn rhesymol y dylid cael trothwy isaf o gefnogaeth yr aelodau cyn y gall gweithredu diwydiannol ddigwydd. I’r rhai sy’n honni y byddai’r rheolau newydd yn rhwystro undebau rhag cynrychioli eu haelodau, buaswn yn dweud hyn: os na allwch gael digon o gefnogaeth gan eich aelodau o blaid streic, yn amlwg nid ydych yn cynrychioli eu safbwyntiau. Os bydd pleidlais i streicio yn methu cyrraedd y lefel honno o gefnogaeth, ni fydd bai ar neb ond yr undebau. Ymddengys bod y cyhoedd yn cefnogi trothwy isaf ar gyfer streicio, a’r unig reswm a all fod dros wrthwynebiad Llafur iddo yw bod eu cyfranwyr o blith yr undebau yn bwysicach iddynt na thryloywder a’r hyn y mae’r cyhoedd ei eisiau. Mae angen i Lafur gofio bod y sector cyhoeddus yno i wasanaethu’r trethdalwr, nid fel arall. Diolch.