Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 18 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. Rwy’n codi i siarad o blaid dur unwaith eto yn y Siambr hon—dros y gweithwyr dur, dros bensiynwyr dur, dros gymunedau dur, dros sector sy’n sylfaen greiddiol iawn i’n heconomi. Efallai y byddai’n well gan rai i mi fod yn dawel, ond cefais fy ngorchymyn i gau fy ngheg gan gynghorwyr Llafur byth er pan oeddwn yn fachgen yn neuadd les y glowyr yn Rhydaman. Ni wrandewais ar eu cyngor bryd hynny ac nid wyf yn mynd i ddechrau gwneud hynny yn awr chwaith.
Ac mewn gwirionedd, yn rhannol oherwydd y profiad hwnnw yn fy machgendod—a mynd drwy’r ing fel teulu o wynebu gorthrymder diswyddiadau a diweithdra a phob dim yr oedd hynny’n ei gynrychioli ac yn wir, cynllun pensiwn a gafodd ei ddwyn, gyda llaw—am y rheswm hwnnw nid wyf yn credu y gallwn aros yn dawel. Rwy’n cofio cyfarfod â John Benson a’i gydweithwyr o Allied Steel and Wire am y tro cyntaf yn yr adeilad drws nesaf, 15 mlynedd yn ôl—pobl a oedd wedi colli eu gwaith a’u pensiwn, a 15 mlynedd yn ddiweddarach, maent yn dal i ymladd—yn dal i ymladd—am gyfiawnder a wadwyd iddynt. Pan feddyliaf am bobl fel John, yr hyn y mae’n chwilio amdano, rwy’n meddwl, a’r hyn y mae pobl sy’n gweithio yn chwilio amdano mewn arweinwyr gwleidyddol, yw arweinyddiaeth, bod yn llais i’r di-lais mewn gwirionedd, dweud y pethau sydd heb eu dweud, gofyn y cwestiynau sydd heb eu hateb, hyd yn oed pan fo’n anghyfforddus, a bod yno hefyd i fynegi’r hyn na allant siarad amdano’n agored eu hunain.