Part of the debate – Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2017.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno â gweithwyr ac undebau o weithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot na ddylai gwleidyddion fod yn ceisio dylanwadu ar weithwyr ynghylch y cynnig arfaethedig i gadw’r gweithfeydd ar agor.
2. Yn credu ei bod hi’n hanfodol bod gweithwyr yn cael yr amser a’r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad ar y cynigion ar sail gwybodaeth.