Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 18 Ionawr 2017.
Diolch. Ar y pwynt olaf, mewn gwirionedd, cafwyd cryn dipyn o sôn heddiw ynglŷn â beth yw rôl y Llywodraeth o ran barn a chynghori. O’r hyn a glywaf, rydych wedi dweud yn glir mai mater o farn yn unig yw unrhyw beth y gallai’r Prif Weinidog fod wedi’i ddweud yma, er enghraifft, ac nad yw’n cynghori. A oes adeg, neu a oedd yna adeg yn ystod eich trafodaethau wrth roi pecyn Llywodraeth Cymru at ei gilydd—ac nid wyf yn ei fychanu mewn gwirionedd—pan ofynnwyd am eich cyngor yn hytrach na’ch barn?