Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 18 Ionawr 2017.
Hyd yn hyn, mae hyder y gweithlu wedi cael ei chwalu—rwyf wedi dweud hyn droeon wrth y Prif Weinidog ac wrthych chi. A wnewch chi hefyd ymuno â mi, efallai, i alw ar gadeirydd newydd Tata Sons i wneud datganiad cyhoeddus i geisio dechrau ailadeiladu hyder yn yr hyn y maent yn ei ddweud?