Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 18 Ionawr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl werthfawr. Gwn y bydd y gweithwyr dur sydd wedi cysylltu â ni wedi gwerthfawrogi clywed yr ystod o safbwyntiau, o farn, mewn perthynas â’r pecyn o gynigion a fydd yn cael eu rhoi iddynt cyn bo hir. Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud llawer fod pob un o’r Aelodau a siaradodd o’r meinciau cefn sydd â gweithfeydd dur yn eu hetholaethau wedi mynegi pryderon difrifol iawn ynghylch y cynigion presennol. A chredaf fod hynny’n cyfiawnhau’r angen i ni gael y ddadl hon, ac i roi pwysau ar Tata i gynnig cytundeb gwell sy’n ateb y pryderon rhesymol a fynegwyd yn y Siambr heddiw. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth Caroline Jones, rwy’n anghytuno â bron popeth a ddywedodd, ond mae hi’n dal i fod yn berson neis. Ond rhaid i mi ddweud o ddifrif, er mai penderfyniad i weithwyr dur yw hwn o reidrwydd yn y pen draw, ni allwn er hynny drosglwyddo ein cyfrifoldeb fel Senedd etholedig i rywun arall. Os nad ydym yn siarad am rywbeth mor bwysig â hyn, am beth y dylem siarad? Rhaid i mi ddweud, er na fyddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, rwy’n meddwl fy mod yn croesawu’r ffaith fod Andrew R.T. Davies yn derbyn rôl bwysig cael dadl ar ddyfodol y diwydiant dur, ac yn bwysig, mae eu gwelliant yn cyfeirio at yr angen am gynllun wrth gefn. Oherwydd os derbyniwn hawl y gweithwyr i wrthod y cytundeb hwn, yna rhaid i ni, fel Senedd etholedig a Llywodraeth y wlad, ddod o hyd i gynnig amgen sy’n ymateb i’r sefyllfa newydd honno.
Diolch i’r Aelodau ar fy ochr am eu cyfraniadau—yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i Bethan Jenkins. Nid oes neb wedi bod yn agosach at y gweithwyr dur—gan fynd yn ôl dros lawer iawn o flynyddoedd erbyn hyn—ac mewn gwirionedd, y rheswm pam rydym wedi dweud yr hyn rydym wedi’i ddweud yn gyhoeddus yw oherwydd bod gweithwyr dur wedi gofyn i ni wneud hynny. Rydym yn cydnabod bod yna amrywiaeth o safbwyntiau ymysg y gweithlu hefyd, ond mae’n bwysig fod y pryderon hynny’n cael eu mynegi’n gyhoeddus. Mae’n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, yn anffodus. Rwy’n meddwl mai’r pwynt pwysig yw bod gan y Llywodraeth rôl yn awr, yn yr amser sydd ar gael, cyn diwedd y mis pan bleidleisir ar y cynigion hyn—mae arnom angen Llywodraeth Cymru i mewn yno’n dweud wrth Tata, ‘Edrychwch, mae posibilrwydd gwirioneddol y gallai’r bleidlais hon gael ei cholli os nad ydych yn ateb y pryderon rhesymol hyn.’ Dyna pam y mae angen i Lywodraeth Cymru fod i mewn yno mewn rôl arweiniol, i geisio ymateb mewn gwirionedd i’r hyn a glywsom heddiw.
Mae’n rhaid i mi ddweud wrth Lee Waters, fe ddechreuodd, ac roeddwn yn cytuno gydag ef—mae hon yn weithred o flacmel economaidd, ac yna gwnaeth yr achos dros ildio iddi’n llwyr. Roedd yna ymadrodd am hynny—[Torri ar draws.] Mae arnaf ofn nad oes gennyf amser. Roedd yna ymadrodd am hynny—nid oes gennyf amser. Roedd yna ymadrodd am hynny: ‘Nid oes unrhyw ddewis arall’. Roedd yn ymadrodd y clywsom lawer o ddefnydd ohono yn y 1980au. Nid dyna’r math o wleidyddiaeth y dylem ei derbyn. Mae yna ddewis arall. Clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun fod yna gynnig arall ar y bwrdd gan gwmni sy’n cynnig cyfran o 25 y cant i’r gweithlu. Cânt eu gwahodd yn y cynnig hwn i ariannu eu pecyn achub eu hunain o’u pensiwn eu hunain, wel pam nad edrychwn ar y cynnig arall hwnnw mewn gwirionedd? Roedd yna ddarpar brynwr arall dros y penwythnos a ysgrifennodd yn uniongyrchol at gynllun pensiwn Dur Prydain—[Torri ar draws.]