Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 18 Ionawr 2017.
Mae yna ddewis arall i Tata hefyd. Gallent gryfhau’r cynnig. Daeth Ratan Tata allan o ymddeoliad oherwydd ei fod yn arswydo at y math o ymagwedd slaes a llosgi fyrdymor yr oedd Cyrus Mistry wedi’i chwistrellu i mewn i’r cwmni. Mae ei arweinyddiaeth newydd yn arwydd o ddychwelyd at werthoedd traddodiadol Tata o degwch ac ymagwedd hirdymor, ac rwy’n meddwl y dylem apelio yn awr ar gadeirydd emeritws dros dro Tata Steel ar lefel fyd-eang. Gadewch i ni gael y tegwch hwnnw. Gadewch i ni gael yr ymagwedd hirdymor honno. Nid yw gweithwyr dur Cymru yn haeddu dim llai.