<p>Siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:34, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg bod angen newid radical arnom i'n system addysg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae hi wedi awgrymu y dylem ni ystyried addysgu ym mhob ysgol gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn orfodol i bob plentyn ysgol yng Nghymru ddysgu Cymraeg ers 1999. Ac eto, er gwaethaf hyn, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng.

I am learning Welsh.

Mae arolygon yn awgrymu bod y rhan fwyf o bobl yn gwrthwynebu addysgu gorfodol. A yw'n bryd i ni dderbyn efallai nad yw dull gorfodi yn gweithio, ac yn hytrach na dweud y dylai pawb ddysgu Cymraeg, a allwn ni efallai, yn hytrach na hynny, ei gwneud yn haws i'r rhai sydd wir eisiau dysgu? Diolch.