<p>Polisi Rhanbarthol ar gyfer y Dyfodol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n credu bod dau fater o ran y strategaeth ddiwydiannol. Hynny yw, does fawr ddim ynddi y gellid anghytuno ag ef, ond, wrth gwrs, mae'n dipyn o gawdel, gan fod rhai o’r colofnau wedi eu datganoli—nid cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyn nhw. Mae rhai ohonyn nhw, mae rhai ohonyn nhw’n gymysg, felly mae angen mwy o eglurder yn hynny o beth.

Ydw, rwy'n credu y bydd yn demtasiwn awtomeiddio ymhellach, a dyna pam mae angen i ni ganolbwyntio yn arbennig o gryf ar godi cynhyrchiant gweithwyr ledled y DU, er mwyn sicrhau nad yw cyflogwyr yn cael eu temtio i gyfnewid pobl am beiriannau oherwydd mater o gynhyrchiant. Ac mae hynny'n rhywbeth, yn sicr, y byddwn ni’n dymuno canolbwyntio’n gryf dros ben arno—codi lefelau cynhyrchiant, er enghraifft, i lefel yr Almaen o leiaf, i wneud yn siŵr nad yw ein gweithwyr ym Mhrydain o dan anfantais oherwydd y lefelau cynhyrchiant hynny.