<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:41, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, byddwch yn falch o glywed nad wyf i'n mynd i’ch holi am yr Undeb Ewropeaidd heddiw, gan nad wyf eisiau ymddangos fel fy mod wedi fy nheipgastio. A, beth bynnag, cefais y cyfle i wneud hynny ddoe, a byddaf yn gwneud hynny’n ddiweddarach heddiw.

Hoffwn ofyn am y gwasanaeth iechyd, yn enwedig o ran meddygon teulu. Bydd yn gwybod bod niferoedd meddygon teulu yn ddigyfnewid ar y cyfan, ac eto ceir galw cynyddol am eu gwasanaethau. Ac, yn wir, yn 2014—y ffigurau diweddaraf yr wyf i wedi gallu dod o hyd iddynt—gennym ni yng Nghymru oedd y nifer lleiaf yn y DU o feddygon teulu ar gyfer pob 1,000 o bobl. Mae oddeutu 17 y cant o feddygon teulu wedi gofyn am arweiniad neu gyngor ar gyfer straen sy'n gysylltiedig â gwaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 84 cant yn poeni y gallent fethu rhywbeth difrifol mewn claf oherwydd pwysau llwyth gwaith, ac mae 56 y cant yn bwriadu gadael maes meddygon teulu neu leihau eu horiau yn y pum mlynedd nesaf. A yw'n derbyn bod argyfwng cynyddol mewn ysbryd ymhlith meddygon teulu yng Nghymru?