<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n dibynnu ar y cleifion sy'n dod drwy'r feddygfa ar y diwrnod penodol hwnnw. I rai pobl, gellir eu gweld mewn pum munud; i bobl eraill, mae'n cymryd mwy o amser. Mae'n dibynnu ar natur y claf. Bydd gan feddygon teulu syniad da o'r cymunedau y maen nhw’n gweithio ynddynt a’r cleifion y maen nhw’n eu gweld yn ystod y diwrnod hwnnw. Ond y pwynt yw, y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw sianelu mwy a mwy o bobl tuag at feddygon teulu. Rydym ni’n dweud wrth bobl, 'Dewiswch yn ddoeth. Ewch i weld fferyllydd yn gyntaf. Os nad, yna ewch i weld nyrs gymunedol neu nyrs practis meddyg teulu. Wedyn, a dim ond wedyn, y mae’r meddyg teulu yn rhywun i fynd i’w weld.'

Ceir problemau o ran cysondeb gwasanaethau meddygon teulu ledled Cymru. Mae cymaint â hynny’n wir. Mae rhai’n cynnig gwasanaethau ehangach nag eraill, maen nhw’n cynnig oriau hwy nag eraill, a dyna pam mae hi mor bwysig gweithio gyda'r coleg brenhinol ac eraill i wneud yn siŵr ein bod ni’n gweld mwy o gysondeb o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol.