Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 24 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, nid wyf i’n mynd i ofyn i chi am erthygl 50 na’r Papur Gwyn a lansiwyd gennym ar y cyd ddoe gan fod datganiadau ar y ddau fater hynny yn dod yn nes ymlaen. Yn hytrach, hoffwn ofyn i chi am faterion yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt. A ydych chi’n derbyn bod llawer o gymudwyr rheilffordd ar reilffyrdd y Cymoedd yn arbennig yn wynebu sefyllfa cael a chael pan ddaw i gyrraedd y gwaith yn brydlon?