<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 24 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 24 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ceir dau beth i'w cadw mewn cof yma. Yn gyntaf, nid yw cyflogau ac amodau athrawon wedi eu datganoli eto—byddant yn cael eu datganoli y flwyddyn nesaf. Mae hynny’n rhoi cyfle i roi pecyn hyfforddiant priodol gyda chyflogau a chydag amodau a fydd yn denu athrawon da i Gymru ac yn gwella hyfforddiant athrawon yng Nghymru. Mae angen y pecyn hwnnw arnom ni. Mae'r Alban wedi ei wneud—nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni allu ei wneud.

Yn ail, mae'r adroddiad yn gwneud y pwynt—sy’n gywir, oherwydd fe’i gwelsom yn PISA, a dweud y gwir—nad oes digon yn cael ei wneud i ymestyn y rhai ar frig y gynghrair academaidd. Dyna’n union y dangosodd PISA. Y rheswm pam roedd y ffigurau PISA yn siomedig yw nad ydym ni’n gwneud yn dda ar y brig, fwy neu lai. Mae gwledydd eraill yn gwneud yn well ar y brig. Os edrychwch chi ar y bandiau canol, rydym yn debyg iawn a dweud y gwir, ond y brig yw’r broblem. Felly, mae’r adroddiad hwnnw wedi dweud wrth athrawon, 'Edrychwch, mae angen i chi wneud mwy i sicrhau bod y cyflawnwyr uchaf yn academaidd yn cael eu gwthio mwy i wneud hyd yn oed yn well'. Rwy'n falch bod yr adroddiad wedi dangos hynny i wneud yn siŵr bod athrawon a gwleidyddion yn deall mai dyna’r hyn y mae angen ei wneud.