Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 24 Ionawr 2017.
Diolch. Wel, yn 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, ei ganllawiau iechyd y cyhoedd ar fynd i'r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf, afiachusrwydd a’r peryglon iechyd sy'n gysylltiedig â chartrefi oer, gan amlinellu nifer o argymhellion a sut y gallai ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol leihau'r perygl o farwolaeth ac afiechyd sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd ac, felly, y pwysau ar y GIG yng Nghymru. O ystyried bod Age Cymru wedi dweud fis Medi diwethaf bod tlodi tanwydd yn un o brif achosion marwolaethau ychwanegol y gaeaf, sut y bydd eich Llywodraeth Cymru chi yn ymateb i'r alwad gan Gynghrair Tlodi Tanwydd Cymru i’r canllawiau NICE hyn gael eu rhoi ar waith gan eich Llywodraeth yng Nghymru?