Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 24 Ionawr 2017.
Mae dau fater yr hoffwn eu codi gydag arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ymyrryd pan fydd asedau a thirnodau cymunedol lleol mewn perygl? Yn fy rhanbarth i, mae'r sinema eiconig Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr wedi bod ar gau ers mis Tachwedd oherwydd problemau asbestos, ac mae pryder cynyddol yn y gymuned nad cau dros dro fydd hyn. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i weld pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymyrryd i ddiogelu ac amddiffyn asedau cymunedol.
A gawn ni hefyd ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â phrisiau tocynnau bws annheg? Mae llawer o bryder am bris tocynnau trên a chwyddiant pris tocynnau trên, ond tynnwyd fy sylw bod tocyn bws wythnosol ym Merthyr yn costio £10 ac mae'r tocyn cyfatebol a gyhoeddwyd gan yr un cwmni yng Nglyn Ebwy yn £25. Ymddengys hyn i fod yn anghysondeb anghyfiawn, ac rwy'n credu ei fod yn haeddu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi y Cynulliad hwn.