Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 24 Ionawr 2017.
Rwy’n sylweddoli ein bod wedi cael datganiad ysgrifenedig ar NSA Afan yn fy rhanbarth i. Ond hoffwn ofyn am ddatganiad llafar ar sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hymchwiliad i honiadau o anghysonderau ariannol yn NSA Afan. Ni roddwyd yr un honiad sylweddol iddynt, yn ôl NSA Afan a'r hyn y maent wedi ei ddweud wrthyf. Gadewch i mi ei gwneud yn gwbl glir nad ydw i'n dymuno trafod manylion yr ymchwiliad hwn, ond yn hytrach y ffordd y cafodd ei gynnal. Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru archwilio’r cyrff hynny sy'n derbyn Cymunedau yn Gyntaf, ac fe wnaeth hyn gyda NSA Afan yn ystod blynyddoedd yr achosion o ddwyn a honnir bellach yn erbyn y cyn swyddog ariannol. Bob tro, rhoddodd Llywodraeth Cymru gymeradwyaeth i NSA Afan. Felly, os yw’r broses archwilio honno wedi’i chynnal, ac os na chafodd materion llywodraethu eu hamlinellu mor ddifrifol ag y gwneir yn awr, rwy’n ceisio deall sut y gall Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad i’w hun yn effeithiol pan mae llawer o bobl a allai fod yn adran y Gweinidog yn cynnal yr ymchwiliadau hynny—a byddent wedi bod yn rhan o’r trefniadau ariannol gyda NSA Afan. Rwyf hefyd yn bryderus o glywed bod sicrwydd ysgrifenedig o gyllid ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn ystod mis Rhagfyr wedi ei wneud gan y cyfarwyddwr cymunedau a threchu tlodi, a ysgrifennodd, ac rwy’n dyfynnu:
Rydym yn awyddus i nodi nad yw’n effeithio ar y berthynas gytundebol rhyngom ni.
Diwedd y dyfyniad. Fodd bynnag, pan gyfarfu NSA Afan gyda'ch swyddogion ddoe, dywedwyd wrthynt na fyddai hyn yn cael ei anrhydeddu ac mae hyn yn gadael y sefydliad nawr mewn sefyllfa lle na all dalu cyflogau, meddan nhw wrthyf.
Hoffwn i gael datganiad llafar yma yn y Siambr gan fy mod yn credu bod hyn yn cyfiawnhau datganiad llafar o ystyried y problemau a gafodd rhai cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol. Dydyn ni ddim eisiau cael problem bosibl arall yn y maes hwn pan fydd y Gweinidog yn gogwyddo tuag at roi'r gorau i Cymunedau yn Gyntaf, ac rwy’n credu y byddai'n synhwyrol i'r Llywodraeth gael y sgwrs honno yn agored.