Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Ionawr 2017.
Rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddod yn ôl ac egluro canlyniad hyn. Ond, fel yr ydych yn ymwybodol, mae trafodaethau parhaus, nid yn unig gyda'r awdurdod lleol ar ddiogelu gwasanaethau ond hefyd drafodaethau gyda'r heddlu. Felly, ar hyn o bryd, ni ellir dweud mwy na’r hyn sydd yn y datganiad ysgrifenedig a mwy na’r ateb i'ch cwestiwn yr wythnos diwethaf. Ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bendant yn sicrhau y gellir rhannu canlyniad hwn yn llawn pan fo'n briodol.