Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 24 Ionawr 2017.
Diolch i'r Aelod am dynnu hynny i'n sylw'r prynhawn yma yn y datganiad busnes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ffwrdd. Rydych chi, wrth gwrs, wedi codi hyn gyda hi ac mae hi'n ymwybodol o'r achos a hefyd wedi ysgrifennu at Gymdeithas Yswirwyr Prydain a Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain. Mae'n anghydfod preifat, yn amlwg, ar y cam hwn rhwng perchennog y tŷ ac yswiriwr perchennog y tŷ, ond rwy’n meddwl bod yr ombwdsmon, yn ôl a ddeallaf, wedi cael ei hysbysu.
Rydych yn tynnu sylw at hyn ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn o ran yswiriant rhag llifogydd. Dylai fod ar gael i'r holl berchnogion tai, ni waeth pa mor agos y maent yn byw at afon, ac mae’r system cymhorthdal Flood Re yn galluogi cartrefi risg uchel—ac mae llawer ohonom yn cynrychioli etholwyr a chymunedau yn y categori hwnnw—i gael yswiriant ar bremiymau fforddiadwy mewn achosion o'r fath, ac mewn gwirionedd mae'n gweithredu gyda dros 90 y cant o'r farchnad gan ei gynnig ar gyfer cartrefi sydd mewn perygl uchel o lifogydd. Ond mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael y neges drosodd i'r diwydiant yswiriant ac i'r rhai sy'n cael eu heffeithio na ddylai byw o fewn 200m i afon eich atal rhag sicrhau yswiriant rhag llifogydd. Mae angen i ni gymryd sylw o'r digwyddiad a'r achos yr ydych wedi ei godi heddiw.