Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 24 Ionawr 2017.
Hannah Blythyn, diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Mae'r ffaith ein bod—. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy’n credu, o ran diwrnod y Llywodraeth—. Wel, dydd Mercher yw'r wythfed, ynte, ac mae diwrnod y Llywodraeth ar y seithfed? Yn sicr, byddai’r Llywodraeth Cymru hon yn awyddus i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwy’n diolch i Hannah Blythyn am godi hynny heddiw, fel Cadeirydd ein grŵp Llafur yn y Cynulliad.