Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 24 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. Wel, rydym nawr wedi cyhoeddi ein datganiad polisi manwl ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein safbwynt wedi ei lunio ar y cyd gyda Phlaid Cymru, drwy ein trefniadau cyswllt, ac, felly, mae ganddo gefnogaeth sylweddol yn y Cynulliad hwn—ac rwy’n gobeithio bod llawer yn y ddogfen hon a fydd yn ennyn cefnogaeth Aelodau eraill hefyd. Yr ehangaf yw’r consensws y gellir ei sefydlu yn y Cynulliad hwn, y mwyaf pwerus fydd y neges gan Gymru o ran diogelu ein buddiannau.
Lywydd, mae’r papur yn gwneud chwe phrif bwynt. Y cyntaf yw y dylem barhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Yn ôl Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i wledydd yn y farchnad sengl, felly pam ar y ddaear y byddem ni’n wirfoddol yn ildio mynediad iddi? Ar hyn o bryd, mae gennym integreiddio llwyr rhwng y DU a'r farchnad sengl. Ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd dylem fod â’r nod o gadw'r integreiddio hwnnw’n llawn, neu gymaint ohono ag y gallwn. Mae gwahanol ffyrdd y gellid gwneud hynny, ond mae’r pwynt hanfodol yn glir: mae ar ein busnesau angen parhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl fel y gallant barhau i werthu eu cynnyrch heb anfantais gystadleuol yn Ewrop.
Rydym hefyd yn credu y dylai'r DU barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau, o leiaf am y tro. Mae hyn yn galluogi trefniadau masnach rydd gyda mwy na 50 o wledydd eraill y tu hwnt i'r UE ac nid oes rheswm da i droi ein cefnau ar hynny. Mae'r posibilrwydd wedi cael ei grybwyll y gallai’r DU, dros amser, ffurfio cysylltiadau masnachu newydd ag economïau mawr eraill fel yr Unol Daleithiau, India a Tsieina. Efallai y byddai cytundebau o'r fath yn werth eu cael, ond yn amodol ar gydsyniad manwl. Efallai y byddem yn eu croesawu, ond byddai cynnwys cytundebau o'r fath yn gwbl hanfodol. Ond ar yr adeg hon, mae'n rhaid inni fod yn bragmatig am fuddiannau Cymru. Mae'r holl dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod datblygu cytundebau masnach newydd yn broses lafurus ac angen ymdrech hirdymor, yn sicr rhwng pump a 10 mlynedd. Ac mae hynny pan fo pethau'n symud ymlaen yn llyfn a llywodraethau newydd yn parhau i fod o’r un farn â’u rhagflaenwyr, sy’n bell o fod yn sicr. Felly, er ein bod o blaid chwilio am gyfleoedd masnach newydd i’n busnesau, hoffem amddiffyn y marchnadoedd sydd gennym eisoes. Os daw gwell cyfleoedd yn y dyfodol, gadewch inni edrych arnynt â meddwl agored, ond ni welwn ddim mantais yn awr o ddatgymalu buddiannau presennol clir heb reswm amlwg.
Rydym yn derbyn bod pryderon am fudo yn rhan o'r hyn a gymhellodd rai pobl i bleidleisio 'gadael', a dyma yw ein hail bwynt. Hoffwn fod yn glir iawn: mae dinasyddion yr UE yn chwarae rhan gadarnhaol iawn ym mywyd Cymru, a hoffwn i’w statws gael ei wneud yn glir ar frys. Yn y dyfodol, bydd angen o hyd inni recriwtio o Ewrop ar gyfer swyddi mewn meysydd lle ceir prinder a dyma'r pwynt allweddol: mae’n rhaid rheoli mudo o'r UE yn ddomestig a’i gysylltu'n benodol â gwaith. Mae arnom angen cyfreithiau a orfodir yn glir i sicrhau nad oes camfanteisio ar weithwyr mudol na’u bod yn cael eu defnyddio gan gyflogwyr diegwyddor i ostwng cyflogau nac i ostwng telerau ac amodau gweithwyr. Credwn mai dyma’r sail ar gyfer dull cytbwys sy'n cysylltu mudo â swyddi ac arferion cyflogaeth da, wedi’u gorfodi'n briodol, sy'n amddiffyn pob gweithiwr o ba bynnag wlad y mae’n dod yn wreiddiol.
Yn drydydd, mae Cymru yn cael tua £680 miliwn bob blwyddyn o gronfeydd yr UE. Yn ystod y refferendwm, cafodd pleidleiswyr eu perswadio gan ymgyrchwyr 'gadael' na fyddai Cymru yr un geiniog yn dlotach o ganlyniad i adael yr UE. Mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am yr addewid hwnnw a hyderaf y bydd gennym gefnogaeth y Siambr gyfan hon yn hynny o beth. Ni fydd y bobl a’n hanfonodd ni yma yn disgwyl dim llai.
Byddwn, wrth gwrs, yn gadael prif raglenni’r UE a ni yma yng Nghymru fydd yn cael y cyfrifoldeb am reoli amaethyddiaeth a chefn gwlad, ac am ddatblygu economaidd rhanbarthol. Mae'n hanfodol bod y cyfrifoldebau hynny'n cael adnoddau priodol, ac rydym yn disgwyl i’r Trysorlys gynnal ein gwariant ar y lefelau presennol. Mae rhai o raglenni llai yr UE sy'n cyfrannu'n sylweddol at ein lles ac y gallem o bosibl ddal i fod yn gymwys ar eu cyfer y tu allan i'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys Horizon 2020, arian i ysgogi ymchwil ac arloesi ac Erasmus, sy'n galluogi cyfnewid myfyrwyr.
Mae Cymru yn rhannu ffin forol ag Iwerddon ac mae porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro yn hollbwysig ac ar reng flaen unrhyw newidiadau. Rydym yn arbennig o awyddus ein bod yn parhau i fod yn gymwys i gael llinyn Cymru-Iwerddon ffynhonnell gyllid INTERREG yr UE. Mae'r symiau o arian yn eithaf bach mewn termau cymharol, ond mae'r rhaglen yn helpu i greu cydweithrediad deinamig rhwng rhanbarthau ffin forol Cymru ac Iwerddon. Bydd y cydweithredu hwn yn dod yn bwysicach, nid yn llai pwysig, yn y dyfodol. Rydym yn mwynhau perthynas ardderchog â’n cymdogion yn Iwerddon, ac rydym yn rhoi gwerth uchel ar adeiladu ar ein cyd-fuddiannau a’n buddiannau cymdogol yn y blynyddoedd i ddod. Fel yr wyf i ac eraill wedi ei ddweud droeon: rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn gadael Ewrop.
Mae ein pedwerydd pwynt yn ymwneud â datganoli a dyfodol y DU. Mae’n rhaid i bwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i'r Cynulliad hwn a’r Llywodraeth hon barhau i fod yn ddatganoledig. Gadewch inni beidio ag anghofio bod ein pwerau hefyd wedi dod o ganlyniad i ddau refferendwm ymhlith y Cymry; byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i fachu pwerau o'r fath iddi ei hun. Rydym yn fodlon iawn i gydnabod y bydd angen cytundeb ar draws pob un o'r pedair llywodraeth mewn rhai meysydd polisi i sicrhau, pan fyddwn y tu allan i'r UE, nad ydym yn gwneud dim byd i atal marchnad fewnol neu farchnad sengl y DU—llif rhydd masnach o fewn y DU. Bydd hyn yn golygu bod angen cyd-barch ymhlith y pedair llywodraeth a pharodrwydd i ddatblygu'r mecanweithiau a fydd yn ein galluogi i ffurfio cytundebau o'r fath, gan gynnwys cyflafareddu annibynnol. Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle i adnewyddu ac adfywio arferion democrataidd yn y DU ac ni ddylid gwastraffu’r cyfle hwnnw ar ganoli trwm na fyddai’n cyflawni dim heblaw meithrin dicter a thanseilio cryfder hirdymor yr undeb.
Mae degawdau o aelodaeth yr UE wedi creu etifeddiaeth o fuddiannau sy’n cwmpasu sawl agwedd ar fywyd, a dyma ein pumed pwynt. Mae gweithwyr yn mwynhau amrywiaeth o amddiffyniadau cyflogaeth ac mae ansawdd ein hamgylchedd wedi cael ei wella'n fawr. Wrth inni adael yr UE, ein nod ye gwarchod y gwelliannau hyn i fywyd bob dydd yng Nghymru, a byddwn yn gwrthwynebu’n rymus unrhyw ymgais i dorri corneli a chreu amodau gwaeth. Mae ein Cymru ni yn wlad sy'n gwerthfawrogi pobl a hoffem wella ansawdd bywyd ein holl ddinasyddion.
Y pwynt olaf a wnawn yn ein dogfen yw bod angen negodi cyfnod pontio, fel y gall y trefniadau presennol fod yn berthnasol am gyfnod ar ôl i'r DU adael yr UE mewn gwirionedd, yn ôl pob tebyg o gwmpas gwanwyn 2019. Nid yw'n glir eto a fydd cytundeb ar berthynas y DU gyda'r UE yn y dyfodol yn seiliedig ar yr un amserlen â'r cytundeb ar gyfer gadael yr UE. Ond mae llawer o amrywioldebau yma a bydd yn rhaid inni aros i weld. Ond, beth bynnag, bydd angen amser ar fusnesau, cyrff cyhoeddus, ffermwyr, prifysgolion a llawer o bobl eraill i asesu realiti newydd wrth i’r realiti hwnnw ddod yn gliriach. Am y rheswm hwn, rydym yn credu bod angen cyfnod pontio, fel bod pawb yn cael amser i baratoi ar gyfer yr amgylchiadau newydd, ac rydym yn credu y dylai hyn fod yn un o flaenoriaethau negodi cynnar y DU.
Lywydd, rwy’n credu bod y Papur Gwyn hwn yn cynrychioli safbwynt cydlynol a manwl ynglŷn â thrafodaethau am yr UE sy'n diogelu buddiannau Cymru ac yn darparu fframwaith credadwy a chadarn ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Rwy'n gobeithio y gwnaiff pob Aelod ei ystyried yn fanwl. Rwy’n bwriadu trefnu dadl ymhen wythnos neu ddwy, a fydd yn rhoi cyfle i ni ddangos cefnogaeth i fudd cenedlaethol Cymru. Rydym yn gadael yr UE—mae’r drafodaeth honno drosodd—ond rwy’n annog pob Aelod i feddwl am delerau gadael yr UE â buddiannau Cymru yn glir mewn golwg.
Yn olaf, Lywydd, rydym eisoes wedi clywed gan y Cwnsler Cyffredinol y prynhawn yma mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys heddiw. Mae'n iawn y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael cyfle i gael dadl am y ddeddfwriaeth sbardun ar gyfer erthygl 50, ac rydym yn bwriadu trefnu dadl o'r fath yn amser y Llywodraeth ar yr adeg briodol.