Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 24 Ionawr 2017.
Dro ar ôl tro, mae rhieni ac athrawon yn dweud wrthyf eu bod yn pryderu am faint dosbarthiadau. Rydym wedi gwrando ar y pryderon hyn, wedi ystyried y dystiolaeth ryngwladol, a heddiw rydym yn cyhoeddi manylion am y gronfa newydd gwerth £36 miliwn i fynd i'r afael â maint dosbarthiadau babanod. Bydd y buddsoddiad hwn, yn gysylltiedig â’n diwygiadau eraill, yn gwella cyrhaeddiad y blynyddoedd cynnar, yn cael effaith sylweddol ar gyfer disgyblion tlotach a difreintiedig, yn cefnogi athrawon i fod yn arloesol ac yn cynyddu ymgysylltiad â disgyblion.
Nawr, yn rhy aml, mae trafodaeth sy’n ymwneud â maint dosbarthiadau yn arwain at ddewis ffug rhwng dosbarthiadau llai a pholisïau eraill ar gyfer gwella addysg. Nid wyf yn derbyn bod y farn gul hon ynglŷn â maint dosbarthiadau yn ffactor amherthnasol o ran perfformiad a lles ein pobl ifanc. Ond, Ddirprwy Lywydd, nid wyf ychwaith yn ei chynnig fel ateb sicr i’n system addysg. Nid yw'n bolisi a gaiff ei gyflwyno ar ei ben ei hun. Ar ôl adolygu gwaith ymchwil a thystiolaeth ryngwladol, mae'n dangos bod lleihau maint dosbarthiadau yn cael yr effaith fwyaf ar y grŵp oedran ieuengaf. Rydym hefyd yn gwybod bod yr effaith yn gryfach ar gyfer disgyblion o gefndiroedd tlotach a/neu sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol. Ac mae lleihau yn cael yr effaith fwyaf pan gyfunir hynny â newidiadau a diwygiadau i addysgu ac addysgeg.
Felly, yn seiliedig ar y dystiolaeth, bydd ein buddsoddiad mewn refeniw a chyllid cyfalaf yn targedu’r ysgolion sydd â’r dosbarthiadau mwyaf o ran maint, lle mae angen gwella addysgu a dysgu, lle mae lefelau uchel o amddifadedd a lle nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn ieithoedd cyntaf.
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil mwyaf arwyddocaol yn y DU i faint dosbarthiadau, gan y Sefydliad Addysg mwyaf blaenllaw y byd yng Ngholeg y Brifysgol Llundain. Gan olrhain dros 20,000 o ddisgyblion mewn dros 500 o ddosbarthiadau ar draws 300 o ysgolion, daeth y gwaith ymchwil i'r casgliad bod maint dosbarthiadau yn cael effaith glir iawn ar gyflawniad academaidd yn ystod y blynyddoedd cynnar, a bod disgyblion o grwpiau cyrhaeddiad isel mewn addysg yn benodol wedi elwa ar ddosbarthiadau llai. Mae'r canlyniadau hyn yn debyg i brosiectau ac ymyriadau polisi cyffelyb a gynhaliwyd yng Ngogledd America.
Yn 2003, adroddodd Estyn fod buddion i’w cael o addysgu grwpiau penodol o blant yn rhan o grŵp bach—yn benodol, y plant ieuengaf, y plant hynny ag anghenion arbennig, y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn iaith heblaw eu hiaith gyntaf, a'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd lle mae pobl dan anfantais gymdeithasol a diwylliannol. Yna, argymhellodd Estyn y dylid targedu’r grwpiau hyn o blant os penderfynwyd dilyn polisi o leihau mwy ar faint dosbarthiadau.
Rydym yn ystyried yn strategol yr hyn y gellir ei gyflawni drwy’r buddsoddiad hwn. Wrth wneud cais am arian, er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y rheng flaen a lle y mae ei angen fwyaf, bydd y meini prawf yn cynnwys: ysgolion â dosbarthiadau o 29 neu fwy; lefelau uchel o brydau ysgol am ddim; canlyniadau sy’n is na’r cyfartaledd, a lle y bernir bod ysgol yn goch neu'n oren yn ôl ein system gategoreiddio genedlaethol; lefelau uchel o anghenion dysgu ychwanegol; lefelau uchel o ddisgyblion nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt; ac o bosibl, gydleoli a darpariaeth integredig y cyfnod sylfaen gyda chynnig gofal plant ein Llywodraeth.
Bydd awdurdodau lleol, drwy gonsortia, yn gwneud cais am gyllid i gefnogi ysgolion yn erbyn y meini prawf hyn. Wrth wneud hynny, byddai angen iddynt gyflwyno achos busnes ar gyfer pob cynnig, a fyddai hefyd yn cynnwys manylion am ba gymorth ychwanegol a ddarperir i'r ysgolion hynny a phwyslais presennol y grant amddifadedd disgyblion a’r grant gwella addysg. Byddai'n rhaid i bob achos busnes hefyd gynnwys canlyniadau penodol yn ymwneud â gwelliannau o ran perfformiad, presenoldeb, cymarebau disgybl athro a chynaliadwyedd. Bydd angen i geisiadau ystyried amrywiaeth eang o ddata, gan gynnwys capasiti ysgolion, cymarebau disgybl athro, presenoldeb, perfformiad—gan gynnwys perfformiad y plant sy’n cael prydau ysgol am ddim—categoreiddio, gweithredu gan yr ysgol a nifer y disgyblion sydd wedi cael datganiad o AAA.
Byddai athrawon ychwanegol a sicrheir drwy leihau maint dosbarthiadau yn cefnogi cydymffurfiad â chymarebau sylfaen ac, yn bwysig iawn, byddai hefyd yn darparu mwy o amser yng nghwmni athro cymwysedig, sy'n hanfodol ar gyfer gweithredu’n effeithiol addysgeg y cyfnod sylfaen. Ceir cysylltiad clir rhwng fy nghyhoeddiad i a datblygu ein cynnig gofal plant. Byddaf yn disgwyl i geisiadau ystyried gweithio ar y cyd ac arbedion effeithlonrwydd ar brosiectau cyfalaf lle mae angen cyfleusterau gofal plant ychwanegol, yn ogystal â dosbarthiadau babanod ychwanegol i gyflwyno cyfnod sylfaen.
Ddirprwy Lywydd, i grynhoi, mae ein diwygiadau addysg yn ceisio codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol. Heddiw, rydym yn ymateb i bryderon rhieni ac athrawon, gan gyflwyno polisi 'gwnaed yng Nghymru' wedi’i siapio gan dystiolaeth ryngwladol ac yn gwarantu £36 miliwn o fuddsoddiad a fydd yn lleihau maint dosbarthiadau babanod fel ein bod yn codi safonau i bawb.