Part of QNR – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2017.
Rydym ni’n parhau i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod blaenoriaethau Cymru’n cael eu hadlewyrchu yn ystod y broses negodi ynglŷn â’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r blaenoriaethau hyn wedi eu nodi’n glir yn y Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, a gyhoeddwyd ddoe.