Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 25 Ionawr 2017.
A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, fe symudwn ni i’r bleidlais. Felly’r bleidlais gyntaf ar ddadl UKIP Cymru. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. Pump o blaid, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.