Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol, o ran Pwerdy Gogledd Lloegr, fod y cytundeb twf yng ngogledd Cymru yn plethu’n berffaith gyda’r dyheadau a’r weledigaeth sydd gan awdurdodau lleol a’r partneriaethau menter lleol ar draws y ffin. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi dweud yn eithaf clir y buaswn yn y pen draw yn rhagweld strwythur pwyllgorau ar y cyd sy’n croesi’r ffin o bosibl. Dyna fuasai’r amcan yn y pen draw o ran yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn economi dwyrain-gorllewin yn y gogledd. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol fod awdurdodau lleol, wrth iddynt symud o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i strwythur pwyllgorau ar y cyd, yn cydnabod bod cynnal busnes gyda phartneriaid ym mhob man, nid yn unig o ran tyfu’r economi, ond hefyd o ran cyflawni gwell gwasanaethau cyhoeddus a gwella trafnidiaeth gyhoeddus, yn gwbl hanfodol.