Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 25 Ionawr 2017.
Wel, byddwn yn buddsoddi dros £700 miliwn yn y metro, a bydd hyn yn arwain at welliannau enfawr i seilwaith ac i brofiad teithio llawer iawn o gymudwyr ar draws de-ddwyrain Cymru. Roeddwn yn ddiolchgar iawn fod yr Aelod wedi gallu mynychu’r cyfarfod briffio yr wythnos diwethaf ar fasnachfraint nesaf y rheilffyrdd, a oedd, wrth gwrs, yn cynnwys gwybodaeth am y metro fel y caiff ei gyflwyno a chyda gwasanaethau newydd yn dechrau yn 2023, rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol fod pob rhan o dde-ddwyrain Cymru sydd wedi teimlo’n ynysig, ar wahân ac ar y cyrion yng nghyd-destun twf economaidd yn y blynyddoedd diwethaf yn teimlo’u bod wedi eu grymuso drwy orsafoedd a seilwaith newydd, ac mae hynny’n cynnwys yn Nhorfaen, lle rwy’n edrych yn ofalus iawn ar ba welliannau i’r seilwaith presennol a seilwaith newydd y gellir eu cyflwyno fel rhan o’r weledigaeth ar gyfer y metro.