<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:56, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, awdurdod lleol bach yw Torfaen; rwy’n credu bod angen i ni gydnabod hynny. Ac felly er y gallai £11 miliwn ymddangos yn swm bach fel rhan o’r darlun mawr, pan fyddwn yn sôn am fwy na £700 miliwn, mewn gwirionedd, i awdurdod lleol bach, i gyngor cymharol fach, mae £11 miliwn yn fuddsoddiad sylweddol ac rwy’n teimlo ei fod yn dangos ymrwymiad i weledigaeth y credaf ein bod yn ei chefnogi ar draws y Siambr.