Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 25 Ionawr 2017.
Fe ystyriaf unrhyw brosiect yn rhan o fuddsoddiad ehangach gan Network Rail sy’n darparu gwell gwerth am arian a gwell profiad i deithwyr. Rwy’n credu efallai fod yr Aelod yn ymwybodol o’r ystadegyn hwn—mae’n eithaf syfrdanol—fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy yn y cyfnod rheoli cyfredol yn y seilwaith rheilffyrdd na’r rhai sy’n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd mewn gwirionedd, a chredaf fod hynny’n siarad cyfrolau am ymroddiad y Llywodraeth hon i wella’r rhwydwaith rheilffyrdd ac i sicrhau bod Cymru’n dod yn wlad fwy unedig a chysylltiedig.