Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 25 Ionawr 2017.
Fe allwn os edrychwn yn benodol ar y safleoedd y byddwn yn mesur niferoedd ymwelwyr arnynt. Felly, er enghraifft, gyda safleoedd Cadw sy’n gysylltiedig â’r cwestiwn y mae’r Aelod yn ei ofyn, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr. Ac o ran y gwariant cysylltiedig, unwaith eto rydym wedi gweld cynnydd. Rydym wedi gweld, er enghraifft, gydag eiddo Cadw yn Nhyndyrn a Glyn y Groes ac Ystrad Fflur, rhyngddynt, maent wedi denu mwy na 84,000 o ymwelwyr. Nawr, o ran y cynllun gweithredu twristiaeth ffydd, wrth gwrs, mae’n ddyddiau cynnar iawn o ran cyflawni’r cynllun gweithredu hwnnw, ond mae Croeso Cymru—ac rwy’n meddwl ei fod yn bwynt pwysig iawn fod Croeso Cymru yn aelodau o’r fforwm newydd ei sefydlu a ddeilliodd o grŵp gorchwyl a gorffen y cynllun gweithredu twristiaeth ffydd, am ei bod yn hanfodol, o ran diogelu treftadaeth adeiladau ffydd yn y dyfodol, fod gennym y cyfrwng hyrwyddo allweddol yno, yn cynnig cyngor a hefyd yn cynnig parodrwydd i hyrwyddo rhai o nodweddion allweddol yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i bob cwr o’r byd.