<p>Rôl Twristiaeth Ffydd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:00, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, rydym eisoes yn gwneud hynny gyda’r adran twristiaeth ffydd ar wefan Croeso Cymru. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn gweld gormodedd o wefannau a thudalennau gwe ar yr un pynciau yn y bôn, ac yn lle hynny, ein bod yn gallu cyfeirio ymwelwyr sy’n awyddus i ddysgu mwy am dwristiaeth ffydd at byrth allweddol. At y diben hwnnw, rwy’n mynd i annog yr Aelod yn ei dro i annog ei etholwyr i wneud yn siŵr fod unrhyw un sy’n creu gwefan ar ganolfan dreftadaeth unigol neu luosog neu atyniad treftadaeth i ymwelwyr yn cyfeirio pobl at wefan Croeso Cymru, lle y gallant ddysgu mwy nid yn unig am yr hyn a geir yn yr ardal leol agos iawn, ond ledled Cymru. Trwy Cadw, rydym wedi gallu datblygu cynllun dehongli treftadaeth ar gyfer Cymru gyfan—y cyntaf o’i fath yn Ewrop—ac mae’n dangos sut rydym wedi ymrwymo i gyfleu hanfod cynnig diwylliannol ar gyfer Cymru gyfan a’i hyrwyddo ar draws y byd. O ran y canlyniadau—ac mae’r Aelod yn sôn am yr angen i hyrwyddo ein safleoedd yn well ar draws y byd—o ran ymwelwyr rhyngwladol, roedd yn flwyddyn well nag erioed y llynedd ac un o’r ffactorau allweddol sydd wedi denu ymwelwyr i Gymru yw safleoedd twristiaeth ffydd. Rwy’n argyhoeddedig y bydd hynny’n parhau yn ystod Blwyddyn y Chwedlau.