Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei fod yn newyddion da iawn fod cyngor Caerdydd wedi lansio cynllun yn ddiweddar i gael cymudwyr i gerdded neu feicio? Lluniwyd y cynllun gyda help o Copenhagen ac arbenigwyr yno sydd wedi datblygu strategaeth feicio lwyddiannus iawn yno. Y targed yw cael cymudwyr yn y ddinas allan o’u ceir erbyn 2021—a 60 y cant erbyn 2026. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu’r fenter hon gan Gaerdydd ac yn meddwl ei bod yn newyddion da iawn i’r ddinas?