<p>Lleihau Tagfeydd yng Nghanol Trefi</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:04, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Cyfarfûm â’ch rhagflaenydd, Edwina Hart, y llynedd mewn perthynas â system traffig unffordd y Trallwng, a Chyngor Tref y Trallwng hefyd. Cytunwyd ar y pryd y buasai Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywfaint o waith i asesu’r opsiynau o droi Brook Street yn ôl o fod yn system draffig unffordd i system ddwyffordd er mwyn lleddfu’r problemau parhaus yn y dref. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am hyn.