<p>Lleihau Tagfeydd yng Nghanol Trefi</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:05, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n datgan buddiant gan fy mod yn gyrru ar y ffyrdd hyn ac rwy’n aelod o gyngor Caerdydd. Rwy’n ei chael hi’n anhygoel fod Julie Morgan yn siarad am gynlluniau i leihau tagfeydd ar y ffyrdd a hithau’n cefnogi cynllun difa lleol Caerdydd, a fuasai’n rhoi 10,000 o geir ychwanegol ar y ffordd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y gallwch oleuo’r cyhoedd, ac egluro iddynt efallai, sut y mae cynllun datblygu lleol sy’n rhoi o leiaf 10,000 o geir ychwanegol ar y ffordd yng ngorllewin y ddinas yn mynd i leihau tagfeydd, gan fod adeiladu ar gaeau gwyrdd, fel y bwriadwch ei wneud—a ydych yn mynd i ddweud nad yw’r bobl hynny’n mynd i yrru i mewn i dref? Hollol anhygoel.