Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 25 Ionawr 2017.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod wedi bod yn bryderus iawn ers peth amser ynglŷn â pha mor agored yw’r seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd i lifogydd, yn enwedig o gwmpas ardal Hen Golwyn. Wrth gwrs, cafodd Llywodraeth Cymru adnoddau ychwanegol, adnoddau cyfalaf, o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU y llynedd—£400 miliwn ychwanegol. Pa waith yr ydych yn ei wneud gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i sicrhau bod y seilwaith allweddol hwnnw—yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru—yn cael ei amddiffyn yn ddigonol rhag y môr? Oherwydd rydych chi a minnau’n gwybod bod yr amddiffynfeydd hynny rhag y môr wedi cael eu difrodi’n sylweddol yn y storm ychydig wythnosau’n ôl. Maent yn cael eu pwyo bob tro y ceir llanw uchel gyda gwyntoedd tua’r tir ac rwy’n bryderus, yn bryderus iawn yn wir, os na fydd rhywbeth yn digwydd yn fuan, y bydd rhyw fethiant trychinebus yn digwydd a allai arwain at golli bywyd.