<p>Gweithwyr Proffesiynol Perthynol mewn Gwasanaethau Iechyd Sylfaenol</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:29, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch iawn o’ch croesawu i Gydweli yn ddiweddar i ymweld â meddygfa Minafon, a oedd, flwyddyn yn ôl, pan wynebodd argyfwng wrth i’r meddygon adael, wedi cynllunio gwasanaeth, gan weithio’n agos gyda bwrdd iechyd Hywel Dda ac ystod o gynghorwyr Llafur lleol a’r gymuned, lle y ceir fferyllydd, ffisiotherapydd a gweithwyr proffesiynol eraill perthynol i iechyd yn cydweithio, ac mae’r gwasanaeth y mae’r cleifion yn ei gael wedi gwella’n anfesuradwy. Beth y gellir ei wneud i ymestyn y model i wasanaethau meddyg teulu ledled Cymru?