Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rhoddodd y gyllideb eleni ddyraniadau ychwanegol i’r gwasanaethau cymdeithasol. Rhoddasom £25 miliwn cychwynnol i’r gwasanaethau cymdeithasol, £4.5 miliwn i adlewyrchu’r cynnydd yr ydym wedi ei roi o ran y terfyn cyfalaf, a £10 miliwn pellach a oedd yn benodol ar ffurf arian grant eleni i fynd i’r afael â’r heriau y mae awdurdodau lleol a’r sector yn eu hwynebu o ran gweithredu’r cyflog byw cenedlaethol newydd. Felly, gan fod £10 miliwn ar ffurf grant eleni, mae’n rhoi’r trosolwg ychwanegol hwnnw i ni.