<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:41, 25 Ionawr 2017

Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiynau innau hefyd yn mynd i’r Gweinidog. Mae pwysau ar adrannau brys ysbytai yn effeithio ar y ddwy ochr i glawdd Offa ac wedi bod yn y penawdau eto, ac mae yna lawer o resymau dros y problemau hynny. Ond rwyf am ganolbwyntio ar rôl gofal cymdeithasol. A ydy’r Gweinidog yn cytuno bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rôl bwysig wrth atal pobl rhag gorfod mynd i ysbytai ac yn gadael iddyn nhw adael yr ysbytai yn gynt?