Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rydym yn gwybod wrth gwrs gymaint o gyfran o’n cyllid ni sy’n mynd i’r NHS, ond nid yw’r un sylw, yr un bri, yn cael ei roi i gyllidebau gofal cymdeithasol. Yn Lloegr, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr wedi torri ar yr arian sydd ar gael i ofal cymdeithasol ac mae effeithiau hynny, rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf yn cytuno, wedi bod yn amlwg o ran cynyddu pwysau ar ysbytai. Yma, yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo nad ydy cyllidebau gofal cymdeithasol wedi cael eu torri gymaint ag yn Lloegr. Ond, pam felly fod nifer yr addasiadau i gartrefi pobl wedi gostwng 21 y cant ers Ebrill 2011 a pham bod faint o offer sy’n cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau wedi gostwng 15 y cant dros yr un cyfnod?