Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 25 Ionawr 2017.
Mae perfformiad yn ymwneud â chanser ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ar lefelau uwch nag mewn byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Betsi Cadwaladr yn dangos bod bron i 99 y cant o bobl o fewn y mesur 31 diwrnod a bod bron 92 y cant o fewn y mesur 62 diwrnod. Bydd amseroedd aros canser, wrth gwrs, yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i mi.