6. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliadau a Gwaith Ymgysylltu ar gyfer y Dyfodol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:20, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Dros yr haf, aethom ati i ymgynghori ar yr hyn y dylai blaenoriaethau ein pwyllgor fod. Roeddwn yn falch o weld cyflwyniadau amrywiol a manwl gan bron i 90 o sefydliadau ac unigolion o bob rhan o Gymru. Arweiniodd hyn y pwyllgor i agor dau ymchwiliad a nodwyd gan y rhanddeiliaid: gwasanaethau eiriolaeth statudol ar gyfer plant a phobl ifanc a chanlyniadau addysgol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig. Rydym wedi gorffen cymryd tystiolaeth ar y ddau bwnc a byddwn yn cyflwyno adroddiad yn fuan.

Gan edrych ymhellach i’r dyfodol ac yn fwy strategol, nododd ein pwyllgor, yn y broses o’i gynllunio, yr egwyddorion a’r dyheadau ar gyfer ein gwaith dros bumed tymor y Cynulliad hwn. Bydd ymwneud plant a phobl ifanc yn sail i bopeth. Drwy ein gwaith, byddwn yn sicrhau bod barn a phrofiadau plant a phobl ifanc yn cael eu casglu mewn ffordd ddefnyddiol, sensitif ac adeiladol.

Yn ein hymchwiliad ciplun i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru, rhoddodd mwy na 1,500 o bobl eu barn ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio. Roedd eu cyfraniad yn rhan hanfodol o’n canfyddiadau a’n hargymhellion, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Roedd yr adborth gan bobl ifanc yn hynod o glir: pan fo’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid yn diflannu o fywyd person ifanc, mae’r effaith yn sylweddol. Mae’r gwasanaethau hyn yn aml yn gatalydd i’w helpu i ddatblygu sgiliau a hyder a gwneud dewisiadau gwell yn eu bywydau.

Mae’n parhau i fod yn hanfodol i ni weithio gyda sefydliadau rhanddeiliaid, gofalwyr, athrawon a rhieni. Rwy’n llwyr ymrwymedig i sicrhau ein bod yn bwyllgor eang ei orwelion a diddorol. Yn ystod ein gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil anghenion dysgu ychwanegol, bydd ein haelodau yn cynnal digwyddiadau gyda rhieni a gofalwyr yng ngogledd a de Cymru.

Rwyf hefyd yn falch o hysbysu’r Aelodau y bydd cyfres o weithdai’n digwydd i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hwn yn rhan bwysig o’n gwaith craffu ar y Bil ADY ac rwy’n edrych ymlaen at weld safbwyntiau pobl ifanc yn llywio ein gwaith. Byddwn hefyd yn cynnal cynhadledd ar gyfer addysgwyr a rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i roi eu barn ar y Bil.

Buasai’n esgeulus ohonof i beidio â diolch i TSANA a SNAP Cymru am eu gwaith partneriaeth gwych gyda’n pwyllgor dros y misoedd diwethaf. Mae’r bartneriaeth hon wedi ein galluogi i ymgysylltu’n ystyrlon â’r rhai y bydd y ddeddfwriaeth yn effeithio’n uniongyrchol arnynt.

Bydd ein gwaith partneriaeth a’n dull o weithredu sy’n edrych tuag allan drwy gydol y gwaith craffu deddfwriaethol hwn yn sicrhau bod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd ein gwaith a bydd gwaith craffu ar y Bil ADY yn rhan sylweddol o’n gwaith tan ddiwedd y gwanwyn.

Lywydd, mae aelodau’r pwyllgor a minnau wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at wella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Yn un o’n hymgynghoriadau cyfredol, rydym yn archwilio pwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn o feichiogrwydd hyd at yr ail ben-blwydd. Mae’r amser ffurfiannol hwn yn rhan hollbwysig o fagwraeth plentyn ac yn gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad deallusol ac iechyd gydol oes.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried i ba raddau y mae polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cefnogi rôl gynnar rhiant yn y 1,000 diwrnod cyntaf ac yn hollbwysig, pa mor effeithiol yw’r rhain am gefnogi galluoedd a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant yn y tymor hir. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwiliad pwysig hwn yn gosod y llwyfan ar gyfer trafodaeth genedlaethol fawr ar sut y gallwn fynd ati o ddifrif i baratoi ein dinasyddion yn y dyfodol ar gyfer bywydau hapus ac iach.

Mae’r pwyllgor yn gofyn am fewnbwn gan athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill i’n hymchwiliad i ddysgu ac addysgu proffesiynol athrawon. Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio’r ffordd y mae athrawon newydd yn cael eu hyfforddi cyn iddynt gymhwyso a hefyd eu datblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eu gyrfaoedd.

Weithiau mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn gaeth i amserlenni anhyblyg ac oherwydd materion capasiti a chynllunio, yn aml yn methu cael yr amser i wella’u hunain yn broffesiynol. Ni all hyn barhau o ystyried y newidiadau parhaus i’r system addysg yng Nghymru, felly byddwn yn edrych yn benodol ar drefniadau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu presennol; rôl addysg gychwynnol i athrawon; a digonolrwydd y gweithlu addysg yn y dyfodol. Fel rhan o’n hymgynghoriad, byddwn yn gweithio gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymgysylltu ar y cyd â’r proffesiwn addysgu fel rhan o’u gwaith ar gonsortia.

Bydd yr Aelodau’n falch o glywed y bydd ein pwyllgor yn gwneud mwy na chynnal cyfres o ddarnau penodol o waith, ond y bydd hefyd yn sicrhau bod craffu parhaus yn digwydd ar feysydd polisi sy’n datblygu. I’r perwyl hwn, rydym yn parhau—[Torri ar draws.]—mae’n ddrwg gennyf; mae’n amser gwael iawn i ddechrau peswch. I’r perwyl hwnnw, rydym yn parhau i archwilio gweithrediad adolygiadau Donaldson a Diamond yn agos. Bydd hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau llwyddiant y diwygiadau pwysig sy’n cael eu cyflwyno. Yn gysylltiedig â’n gwaith craffu parhaus ar ddiwygiadau’r cwricwlwm, byddwn yn archwilio perfformiad Cymru yn y PISA yn agosach ac yn archwilio sut yn union y bydd y diwygiadau cwricwlwm yn effeithio ar ein safle rhyngwladol.

Bydd iechyd plant yn chwarae rhan fawr yn ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda sefydliadau megis Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a chroesawu prif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru i’r pwyllgor ym mis Mawrth i amlinellu ei weledigaeth ar gyfer gwella iechyd plant.

Mae aelodau’r pwyllgor yn frwdfrydig iawn ynglŷn ag ansawdd a darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae’r pwyllgor eisoes wedi cynnal gwaith craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ac rwy’n siŵr ei fod yn ymwybodol y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y maes pwysig hwn. Bydd y pwyllgor yn parhau i edrych ar y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc mewn argyfwng, ac yn benodol, ar achosion o oedi cyn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol.

Mae’r fenter senedd ieuenctid sy’n cael ei harwain gan y Llywydd yn foment wirioneddol gyffrous yn hanes y Cynulliad. Nid yn unig y mae’n un a ddylai greu cysylltiadau ystyrlon a pharhaol rhwng ysgolion, pobl ifanc a’r Cynulliad, ond mae’n gydnabyddiaeth o wir werth plant a phobl ifanc yn ein democratiaeth. Rwyf am gynnig cefnogaeth lawn a diwyro ein pwyllgor i sefydlu’r senedd ieuenctid, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn chwarae rhan lawn yn ei datblygiad.

Wrth gloi fy natganiad heddiw, Lywydd, hoffwn ddiolch i’r bobl ifanc, gofalwyr, rhieni ac arbenigwyr sydd wedi cyfrannu’n barod at ein cylch eang o waith ers sefydlu’r pwyllgor. Dros bumed tymor y Cynulliad hwn, gobeithiaf y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gyfrwng go iawn i leisiau pobl ifanc allu siapio polisi a deddfwriaeth yng Nghymru.