Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 25 Ionawr 2017.
Nid wyf yn gwybod beth i’w ddweud, ar wahân i ‘diolch’. [Chwerthin.] Diolch i chi, Darren, am eich geiriau caredig. A gaf fi ddweud fy mod yn awyddus tu hwnt i’r pwyllgor weithio gyda’i gilydd fel tîm? Cawsom ddiwrnod cynllunio strategol rhagorol, ac roedd yn amlwg iawn ein bod i gyd yn awyddus iawn i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu parhau yn yr un modd ag y dechreusom, a gwneud hynny. A wyf fi i fod i ymateb i’r pwyntiau eraill?