Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 25 Ionawr 2017.
Ni allaf gymryd un arall, Jeremy, mae’n ddrwg iawn gennyf.
Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, ond sylwadau Cymdeithas Feddygol Prydain. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi bod yn rhybuddio ers tair neu bedair blynedd fod argyfwng ar y ffordd mewn ymarfer cyffredinol. Maent wedi bod yn galw am gynnydd yn nifer y meddygon teulu, ond weithiau cafodd eu galwadau eu hanwybyddu. Ydy, mae Llywodraeth Cymru yn gwrando: lansiwyd ymgyrch newydd ganddi ar gyfer recriwtio meddygon teulu ym mis Hydref, ond nid yw’n ddigon. Mae angen i ni recriwtio oddeutu 200 o feddygon teulu y flwyddyn. Yn lle hynny, rydym yn cael trafferth i lenwi 125 o’r lleoedd hyfforddi sydd ar gael bob blwyddyn. Bydd yr ymgyrch recriwtio newydd yn helpu, ond nid yw’n ddigon.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi gofyn am roi mwy o bwyslais ar fyfyrwyr o Gymru i astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Cymru, gan mai’r myfyrwyr hynny sydd fwyaf tebygol o aros yng Nghymru. Mae Caerdydd yn gofyn am yr hyn sy’n cyfateb i wyth A* lefel TGAU ar gyfer eu cyrsiau. Mae llawer o’r meddygon sy’n gweithio yn y GIG heddiw wedi cyfaddef yn barod na fuasent yn ateb y meini prawf. Nid ydym yn gofyn am wneud cyrsiau’n haws, ond am ofynion mynediad mwy realistig, dyna’i gyd, a mwy o ffocws ar fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru.
Nid niferoedd y meddygon teulu’n unig sydd angen i ni eu cynyddu. Mae arnom angen Llywodraeth Cymru sydd â ffocws cryfach ar, ac ymrwymiad i ymarfer cyffredinol a gofal sylfaenol. Mae’r rhan fwyaf o gyllideb y GIG yng Nghymru yn mynd tuag at ofal eilaidd. Cyn 2004 roedd gwariant ar ymarfer cyffredinol dros 10 y cant o gyfanswm cyllideb y GIG. Roedd yna gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ehangu, ar gyfer gwasanaethau newydd, cystadleuaeth am swyddi, mwy o geisiadau am leoedd hyfforddi nag o leoedd, a morâl yn uchel. Ers hynny, mae’r cyllid wedi gostwng i rhwng 7 ac 8 y cant, ac nid oes gan ymarfer cyffredinol ddigon o arian ar gyfer y gweithlu, y safleoedd na’r gwasanaethau. Dros yr un cyfnod, mae cyfraddau ymgynghoriadau wedi saethu i fyny a mwy o feichiau’n cael eu rhoi ar ymarfer cyffredinol gan ofal eilaidd.
Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod 84 y cant o feddygon teulu yn poeni y gallant fethu canfod rhywbeth difrifol oherwydd llwyth gwaith afresymol, ac mae 92 y cant o feddygon teulu yn poeni bod diffyg adnoddau yn rhoi gofal cleifion mewn perygl. Mae dros hanner y meddygon teulu a holwyd yn dweud eu bod naill ai wedi cynllunio i leihau eu horiau neu adael ymarfer cyffredinol yn gyfan gwbl o fewn y pum mlynedd nesaf. Mae 17 y cant o feddygon teulu wedi gofyn am gymorth ar gyfer straen sy’n gysylltiedig â gwaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwn am un meddyg teulu sydd fel mater o drefn yn gorfod gweld dros 100 o gleifion yn ystod sesiwn ymgynghori. Nid yw hyn yn dda i gleifion na meddygon.
Rydym yn gweld effeithiau’r pwysau ar ymarfer cyffredinol ar draws y GIG. Un o’r rhesymau pam y gwelwn ambiwlansys yn ciwio y tu allan i’n hysbytai a phobl sy’n aros mwy na 12 awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yw o ganlyniad uniongyrchol i orweithio mewn ymarfer cyffredinol. Mae pobl nad ydynt yn gallu gweld eu meddyg teulu yn mynd i’r ysbyty.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain wedi galw am gynyddu cyllid ar gyfer ymarfer cyffredinol i dros 12 y cant o gyllideb y GIG. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud y gallai mwy o wario ar ymarfer cyffredinol arbed dros £90 miliwn i’r GIG yng Nghymru erbyn 2020. Mae ffigurau’r coleg brenhinol yn seiliedig ar ymchwil manwl gan Deloitte. Mae’r ymchwil yn dangos y gallai cynnydd o tua £3.5 miliwn y flwyddyn ar ymarfer cyffredinol ar draws Cymru i dalu am bethau megis rhagor o feddygon teulu a nyrsys practis dorri dros chwarter yr ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys a sicrhau arbedion o tua £21.5 miliwn bob blwyddyn ariannol, gan godi at arbedion blynyddol o tua £34 miliwn erbyn diwedd y degawd hwn.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn cytuno bod angen i ni fuddsoddi a gwella’r seilwaith sydd ar gael i ymarfer cyffredinol. Mae angen i ni wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i wella gofal cleifion, cyflymu diagnosteg a symleiddio gwasanaethau. Mae meddygon teulu yng Nghymru yn dal i aros i ragnodi electronig gael ei gyflwyno, rhywbeth y mae eu cydweithwyr ar draws y ffin yn ei fwynhau. Mae rhagnodi electronig yn gwella profiad y claf, mae’n fwy diogel i gleifion ac yn lleihau’r baich gwaith ar feddygon teulu. Mae’r seilwaith TG sydd ar gael i’r GIG yng Nghymru yn ofnadwy. Mae’n unfed ganrif ar hugain ac rydym yn dal i ddibynnu ar y post traddodiadol a pheiriannau ffacs. Mae gwelliannau, pan fyddant yn dod, yn araf yn cyrraedd. Mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith sydd gennym ar waith yn addas i’r diben, yn gallu addasu i anghenion y dyfodol ac yn lleihau llwyth gwaith ein meddygon teulu mewn gwirionedd, yn hytrach nag ychwanegu at y baich biwrocrataidd.
Gyd-Aelodau, rydym yn wynebu argyfwng mewn ymarfer cyffredinol. Bydd argyfwng sy’n cael ei adael i ddigwydd yn tanseilio ein gwasanaeth iechyd gwladol yn ei gyfanrwydd. Ni allwn barhau i anwybyddu’r broblem neu dincran â’i hymylon. Mae angen buddsoddi’n sylweddol mewn ymarfer cyffredinol, buddsoddi’n sylweddol mewn pobl, buddsoddi’n sylweddol mewn adnoddau a buddsoddi’n sylweddol mewn seilwaith. Ond mae angen y buddsoddiad hwnnw yn awr.
Anogaf yr Aelodau i ddangos i’n meddygon teulu gweithgar, neu ein meddygon teulu sy’n gorweithio, dylwn ddweud, ein bod yn eu cefnogi 100 y cant drwy gefnogi’r cynnig sydd ger eich bron heddiw. Ni fydd UKIP yn cefnogi’r gwelliannau gan Lywodraeth Cymru a byddwn yn gwrthod gwelliannau Plaid Cymru. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig am ei fod yn ychwanegu at y ddadl, ac nid yw’n tynnu oddi wrth y neges graidd yr hoffwn ei gweld yn mynd allan o’r Siambr hon heddiw.
Mae meddygon teulu ac ymarfer cyffredinol yn bwysig i ni. Hwy yw conglfaen ein GIG, a bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau bod meddygon teulu yn cael y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnynt er mwyn trin cleifion mewn modd diogel ac amserol. Diolch yn fawr.