Part of the debate – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2017.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol, gofal eilaidd, a gofal cymdeithasol yn cydweithio i gynorthwyo cleifion i reoli eu cyflyrau yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar atal derbyniadau ysbyty; gan gydnabod y bydd angen cynllunio hirdymor priodol ar gyfer hyn, buddsoddi mewn seilwaith a pholisïau ehangach o du’r llywodraeth i hybu iechyd da.